Côr y Brythoniaid © 2023 Website designed and maintained by H G Web Designs
Archif
9/2/15
O’r diwedd mae ein fersiwn o’r gan ‘Uprising’ gan Muse ar gael i’w archebu dros Itunes. Gallwch chi ei brynu yma!
20/1/15
Mi fydd y Cor yn cymeryd rhan mewn dau rhaglen teledu yn y dyfodol agos. Yn gyntaf yn y Rhaglen ' Noson Lawen ' ar
S4C ar yr 31ain o Ionawr a recordiwyd yng Nghanolfan Hamdden Dolgellau.
Ac yn ail, mi fydd can ' Uprising ' yn cael ei ddefnyddio mewn rhyw ffurf yn ystod rhaglen 'Scrum V Six Nations preview
show' ar y 1af Chwefror. Rydym yn edrych ymlaen i glywed y gan yma ar teledu cenedlaethol. Mae 2015 wedi dechrau
yn dda!
Festival No. 6 2014
Wel, fe gyrhaeddodd Gŵyl Rhif 6, 2014, ac er bod gennym brofiad o’r ddwy Ŵyl flaenorol ac yn gwybod beth oedd o’n
blaenau, roedd y lefel o ddisgwyliad a nerfusrwydd yr un mor amlwg.
Unwaith eto rhoddwyd prawf ar amynedd a nerfau ein harweinydd gan ein hymarfer ar y nos Iau, ond daeth cyfnod yr
ymarferion i ben ac roedd yn rhaid ymbaratoi ar gyfer y perfformiadau go iawn! Roedd ein hathrylith o gynhyrchydd,
Rich Roberts, wedi gwneud gwaith gwych yn recordio traciau cefndirol ar ein cyfer ac felly roedd popeth yn ei le ar ein
cyfer.
Trwy drugaredd, tywynnodd yr haul ar y dydd Gwener ac wrth i’r haul fachlud fe ymgasglodd y Côr ar gyfer y
perfformiad cyntaf. Wrth i’r cynnwrf gynyddu roedd ugeiniau o ymwelwyr yn dymuno’n dda ac yn gofyn am gael tynnu’
lluniau hefo aelodau’r Côr. Wrth inni gerdded i fyny’r llethr i ben y grisiau uwchben y llwyfan roedd sŵn y dorf yn
dechrau cynyddu ac wrth inni gael yr arwydd i gerdded i lawr y grisiau i’r llwyfan o flaen y colonnade, roedd y croeso
yn fyddarol. Roedd hyd yn oed aelodau mwyaf profiadol y Côr yn rhyfeddu o gael y fath dderbyniad.
Wedi ffurfio’n daclus fe ddechreuodd y Côr yn ddiymdroi ar y gân gyntaf, Roedd y gymeradwyaeth ar ei diwedd yn
fyddarol - roedd yn amlwg y byddai yn noson dda! Ac felly y bu. Erbyn diwedd ein perfformiad roedd yr ymdeimlad o
foddhad a balchder yn llenwi’n calonnau. Wedi’r perfformiad cafodd Elizabeth, ein cyfeilyddes wych, ei hebrwng i’r
llwyfan gan Albanwr golygus (meddai hi!!) yn gwisgo cilt, gan ennyn cymeradwyaeth brwdfrydig.
Ailadroddwyd y croeso a’r derbyniad hwn ar y nos Sadwrn hefyd, gyda mwy fyth o gynulleidfa’n bresennol, a hwythau’n
awyddus i ymuno yn y canu – roedd yn noson arbennig dan loer hyfryd mis Medi.
Dydd Sul cafwyd profiad a erys yng nghof aelodau’r Côr am gyfnod maith. Yn gyntaf, cafwyd ymarfer ar brif lwyfan yr
Ŵyl gyda thîm cynhyrchu’r Pet Shop Boys.
Roedd pob manylyn wedi ei gynllunio’n ofalus - sut roeddem yn cerdded ar y llwyfan, ble roeddem yn sefyll, lefel y sain
ac yn y blaen. Er bod yr arena yn wag i raddau helaeth roedd y sain yn wefreiddiol! Wedi cyflawni’r dasg honno rhaid
oedd disgwyl wedyn tan berfformiad y prynhawn.
Gan fod y Côr yn dathlu ei hanner can mlwyddiant eleni cawsom ganiatâd gan drefnwyr yr Ŵyl i berfformio am awr
gyfan ar y Piazza, a hynny’n gynharach yn y dydd nag arfer. Unwaith eto roedd y tywydd yn hynod braf, ond roeddem
ychydig yn bryderus ynglŷn â sut gynulleidfa fyddai’n bresennol gan ein bod yn perfformio’n gynharach nag arfer. Nid
oedd angen pryderu o gwbl - roedd y gynulleidfa yn enfawr, fel y dengys y lluniau ar ein gwefan. Braf am unwaith
oedd cael gweld y gynulleidfa, llawer ohonynt wedi bod yn bresennol ar gyfer perfformiadau blaenorol y Côr. Braf
hefyd oedd gweld pobl ifanc yn gwisgo crysau-T y Brythoniaid.
Yna, rhaid oedd disgwyl yn hir am ein moment fawr, ein hymddangosiad ar y llwyfan gyda’r Pet Shop Boys. Am
chwarter i ddeg ymgasglodd y Côr yn y gwyll gefn llwyfan ac fe roddwyd cyfarwyddiau funud olaf i ni. Roeddem yn
synhwyro’r awyrgylch yn y brif arena ac roedd ymdeimlad o nerfusrwydd yn amlwg ymysg yr aelodau. Ar yr achlysur
hwn roedd ein harweinydd yn canu fel aelod o’r Côr ac roeddem yn meddwl….tybed wnaiff o gofio’r geiriau!!
Yna daeth y foment pan yr hebryngwyd ni i’r llwyfan. Wel sôn am groeso gan y miloedd o bobl yn sefyll yn rhengoedd
o’n blaenau! Rhaid oedd sefyll am ychydig eiliadau ac yna fe ddechreuodd y gerddoriaeth, gan achosi i’r llwyfan grynu.
Yna, camodd y Pet Shop Boys, yn eu dillad oren llachar, i’r llwyfan trwy’r bwlch yng nghanol y Côr - eiliad bythgofiadwy.
Fe aeth y gân yn arbennig o dda, gyda Neil Tennant yn rhoi pob cymorth i’r Côr gyda’i ystumiau. Ac yna, mewn byr
amser, roedd popeth drosodd ond bydd yr ychydig funudau hynny yn byw yn hir yn y cof. Diolch yn arbennig i’r Pet
Shop Boys am ganiatáu inni rannu eu llwyfan.
Byddai angen tudalen arall i ddiolch yn iawn i’r holl bobl a gyfrannodd at lwyddiant y penwythnos, ond hoffem ddiolch
yn arbennig i Luke Bainbridge (Gŵyl Rhif 6), John Eifion a Liz, ein tîm cerddorol, a Wyn Symonds, a weithiodd mor galed
ar ein rhan i gydlynu’r trefniadau.
Diolch hefyd i’r miloedd a ddaeth i wrando arnom, yn hen ffrindiau ac yn ffrindiau newydd, gan wneud pob
perfformiad yn un arbennig. Cadwch mewn cysylltiad ……. a gobeithio y cawn eich gweld eto'r flwyddyn nesaf.
25/7/14 - Festival No6 2014
I glywed fideo newydd y Cor mewn cydweithrediad a Gwyl Rhif 6 ym Mhortmeirion canlynwch y link yma
Hwn yw’r gorau eto.
7/4/14
Ni fydd yna ymarfer Cor ar Nos Iau y 17fed o Ebrill, 2014.
16/12/13
Mae’r Brythoniaid am fod ar ITV yn mis Ionawr! Darllenwch y stori yma.
10/12/13
Mae fersiwn y Côr o ‘Good Times’ yn rhif 1 ar siartiau Cylchgrawn Paste! Am fwy o fanylion ewch i dudalen ‘Sylwadau’.
19/11/13
Mae ein CD ‘Chwech i Rhif 6’ ar werth! Am fwy o fanylion ewch i dudalen ‘Cryno Ddisgiau’.
25/10/13
Nodir: Ni fydd yna ymarfer Cor ar Nos Iau y 31ain o Hydref 2013.
Chwech i Rhif 6’ - WEDI GWERTHU ALLAN
Dyma’r caneuon a recordiwyd gan y Cor ar gyfer eu perfformiad yng
Ngwyl 6 ym Mhortmerion yn 2013.
Os ydych eisiau ail fyw y profiad neu clywed y Cor fel na chlywyd hwy
(na unrhyw gor arall y tybiwn i) or blaen, well nawr yw eich cyfle.
Mae’r ddisc yn cynnwys caneuon o’r traddodiadol fel Kwmbayah i’r
anthemau fel Good Times gan Chic a Uprising gan Muse.
Mae fersiwn y Cor or caneuon yma wedi ei ddisgrifio fel Epig a Syfrdanol
mewn cylchgronnau a phapurau cenedlaethol fel y gwelwyd ar ein
tudalen ‘comments’ ar y wefan hon.
Os hoffech chi gopi or EP yma am £6 + pp yr un cyn iddynt eu gwerthu allan, cysylltwch a ni trwy’r wefan hon.