Adra


Côr Meibion y Brythoniaid yw’r mwyaf o’r ddau gôr meibion ym Mlaenau Ffestiniog a maent yn ymarfer yn wythnosol yn y brif neuadd yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, bob nos Iau am hanner awr wedi saith. Mae yna groeso twym galon i ymwelwyr ddod i’n hymarfer unrhyw nos Iau ac os dymunwch, mae yna groeso hefyd i chi ymuno a’r Côr fel aelod. Fe fyddwch yn ymaelodi ag un o’r corau sydd wedi teithio i  bedwar ban byd ac yn un o’r corau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Mae yna groeso cynnes iawn yn eich disgwyl.

Amdanom Ni Ymddangosiadau Corydd
Ym mis Mehefin 1964, ffurfiodd gŵr o Flaenau Ffestiniog, Meirion Jones, gôr meibion a fyddai’n tyfu i fod yn un o’r corau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Ffurfiwyd y côr er mwyn cystadlu mewn eisteddfod fach leol yng Nghapel Hyfrydfa ym Manod ac yn dilyn yr ymddangosiad hwnnw awgrymwyd bod y côr yn perfformio yn y Carnifal lleol rai wythnosau yn ddiweddarach. Yr adeg honno, tua phymtheg o aelodau oedd gan y côr, ond yn sgîl yr anogaeth a gawsant, aethant ati i sefydlu’r côr yn ffurfiol a dechrau ar y gwaith o ddenu aelodau newydd..  Mwy...



Find us on ITUNES

News