Cor Bro Aled ar Brythoniaid
Home > News > Cor Bro Aled ar Brythoniaid
Diolch o galon Côr Meibion Bro Aled am y croeso cynnes iawn ar noson cyflwyno y Siec am y swm anhygoel o £4,921.00 wedi y cyngerdd hollol arbennig er budd Gofal Dydd y Waen. Diolch yn fawr iawn hefyd i Cor y Brythoniaid am eu cyfraniadau gwefreiddiol ar y noson . Roedd Neuadd y Dref Dinbych yn llawn a rhai ar y stryd wedi clywed y canu godidog. Mawr ddiolch hefyd i Dylan Roberts Cyf a Cyngor Plwyf Llansannan am Noddi y noson ac i Criw cwiltwyr Rhuthun a Sara Y Red, Llew Coch Llansannan am eu gwobrau raffl hael. Rydym yn teimlo'n wylaidd iawn o weld gymaint o garedigrwydd tuag at Gofal Dydd.