Côr Meibion y Brythoniaid


Côr Meibion y Brythoniaid yw’r mwyaf o ddau Gôr Meibion ym Mlaenau Ffestiniog ac maent yn ymarfer yn wythnosol yn y brif neuadd yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, bob nos Iau am hanner awr wedi saith.

Y Côr
view of the welsh countryside and mountain range in the background view of the welsh countryside and mountain range in the background

Croeso...


Ym mis Mehefin 1964, ffurfiodd gŵr o Flaenau Ffestiniog, Meirion Jones, gôr meibion a fyddai’n tyfu i fod yn un o’r corau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru.

Ffurfiwyd y côr er mwyn cystadlu mewn eisteddfod fach leol yng Nghapel Hyfrydfa ym Manod ac yn dilyn yr ymddangosiad hwnnw awgrymwyd bod y côr yn perfformio yn y Carnifal lleol rai wythnosau yn ddiweddarach.

Hanes Y Côr

Ymunwch â Ni


Mae yna groeso twym galon i ymwelwyr ddod i’n hymarfer unrhyw nos Iau am 7:30yh, ac os dymunwch, mae yna groeso hefyd i chi ymuno a’r Côr fel aelod. Fe fyddwch yn ymaelodi ag un o’r corau sydd wedi teithio i bedwar ban byd ac yn un o’r corau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru.

Mae yna groeso cynnes iawn yn eich disgwyl. 

Ymaelodwch

Digwyddiadau


Cyngerdd yn Eglwys Llanengan

Manylion Llawn
the choir singing at a event at Portmeirion the choir singing at a event at Portmeirion

Y Gyngerdd Nesaf


Cyngerdd Mawreddog Rhan 2

Eglwys Llanengan 14-12-24 18:30

Dewch a tystiolaeth tocyn gyda chi