Dyfodol y Côr

Cartref > Y Côr > Dyfodol y Côr

Cadeirlan Caeredin
Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus a phrysur iawn yn 2024, mae'r Côr yn edrych ymlaen at flwyddyn yr un mor brysur yn 2025 a 2026 pan fydd yr 
Arweinydd John Eifion Jones yn dathlu 25 mlynedd o arwain, cryn gamp. Yn 2025 bydd y Côr yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol 
yn erbyn wŷth Côr arall, dylai hynny fod yn gystadleuaeth gwych. 
Yn 2026 bydd y Côr yn mynd ar daith fer ond arbennig iawn i'r Alban i ddathlu 25 mlynedd John Eifion fel ein Harweinydd.
Bydd dau perfformiad gan y Côr, gan gynnwys cyngherddau yn Glasgow ar Gadeirlan yng Nghaeredin, dau ddigwyddiad arbennig iawn 
i'r Côr gan gynnwys rhannu'r llwyfan gyda Chôr Heddlu Caeredin a hefyd y Glasgow Philharmonic Male Voice Choir 
Y flwyddyn nesaf hefyd mae sawl digwyddiad yn y cynllun sydd ar hyn o bryd yn gyfrinachol ond a fydd yn sicr 
o fod yn brofiadau bythgofiadwy i'r aelodau.
https://youtu.be/fMOF3wsrLf8?si=Z9Xzr1XLE3z9xgN-