Arweinydd

Cartref > Y Côr > Arweinydd

John Eifion

Bwriodd John Eifion ei brentisiaeth cerddorol yn ystod ei blentyndod pan y bu ef, ei dair chwaer a’i rieni yn canu a chynnal cyngherddau ar draws Gogledd Cymru. Ers y dyddiau cynnar hynnu, mae wedi mwynhau llwyddiant ar sawl achlysur mewn cystadlaethau lleol a chenedlaethol – gan ennill ar y unawd tenor yn y Brifwyl bum gwaith. Cyrhaeddodd uchafbwynt ei yrfa hyd yma ym 1999, pan enillodd wobr goffa David Ellis – y Rhuban Glas i unawdwyr lleisiol ym mhrifwyl Môn.

O ganlyniad, mae galw mawr am ei wasanaeth fel unawdydd ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Mae wedi teithio Canada, America, Iwerddon a Barbados.

Mae wedi perfformio sawl oratorio gan gynnwys ‘Samsom’ , y ‘ Messiah’, Elijah’ ac hefyd y ‘Croeshoeliad’.

Mae’r rhaglen ar gyfer ei gyngherddau yn amrywio o arias operatig a chaneuon allan o sioeau cerdd i unawdau Cymraeg a Cherdd Dant – rhaglen sydd yn eang iawn ei hapel.

Wrth ei waith bob dydd, mae’n Swyddog Lles i Awdurdod Addysg Gyngor Gwynedd. Mae’n briod gyda dwy ferch, a chanu yw ei ddiddordeb pennaf. Mae eisioes wedi rhyddhau ei CD gyntaf, ac yn gynharach yn 2001, ymgymerodd a swydd arall, sef arweinydd newydd Côr Meibion y Brythoniaid.

Yn ei ail flwyddyn fel arweinydd enillwyd cwpan y brif gystadleuaeth i gorau meibion yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

John Eifion