Cyfeilyddes

Cartref > Y Côr > Cyfeilyddes

Elizabeth Ellis

Mae Elizabeth yn hanu’n wreiddiol o’r Bontfaen ym Morgannwg ond ers blynyddoedd bellach mae’n byw ac yn gweithio yn Nolgellau, Meirionnydd. Bu’n astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac yn arbenigo ar gyfansoddi a hefyd ar chwarae’r piano a’r harpsicord. Tra yn y Coleg Cerdd enillodd Wobr Chapell am ei thalent ar y piano a hefyd ysgoloriaeth i astudio ymhellach gyda Herbert Howells a George Malcolm. Mae wedi teithio Ewrop, Rwsia ar Unol Daleithiau fel unawdydd ac fel cyfeilydd. Yn 1992 fe’i gwnaed yn Gymrawd y Coleg Cerdd Brenhinol. Bu’n gyfeilydd swyddogol i’r Brythoniaid ers 1984.

elizabeth ellis