Eisteddfod 2024

Cartref > Digwyddiadau > Archif Digwyddiadau > Eisteddfod 2024

Sadwrn, 6ed o Orffennaf 2024 - Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Ar y 6 ed o Orffenaf 2024 roedd y Côr yn cystadlu yng nghystadleuaerth y Corau Meibion yn Eisteddfod Rhyngwladol yn Llangollen. Y prif darn roedd y Côr yn ei ganu oedd ‘ Gwyr Aeth Gatraeth “ darn newydd gydar geiriau godidog wedi ei cyfansoddi gan aelod or Côr sef Geraint Vaughan Jones ar gerddoriaeth wedi cyfansoddi gan Gareth Glyn. Roedd y darn wedi bod yn heriol tu hwnt i’w ddysgu gan fod y gerddoriaeth mor gymleth gyda discordiau mawr rhwng pedwar llais y Côr. Bu John Eifion a Liz yn amyneddgar iawn wrth ein rhoi ar ben ffordd gyda’r trefniant unigryw yma. Ein dwy gân arall oedd “ When I Need a Friend gan Coldplay a Salm 23 ( Eric Jones ) . Roedd edwar Côr o Loegr yn ein herbyn sef Balderstone, Northampton, Rossendale a Meantime Chorus ( Barbershop Chorus o Lundain. ). Y Côr gafodd y marciau uchaf o 91 marc oedd Meantime Chorus a ninnau yn ail gyda 90. Hen dro ond roedd y safon eithriadol I’r enillwyr a oedd efo arddyll tra wahanol I Gôr meibion traddodiadol. 


Pob digwyddiad