Cyngerdd gyda Rhys Meirion
Cartref > Digwyddiadau > Cyngerdd gyda Rhys Meirion
Mae’r Rhys Meirion poblogaidd yn dychwelyd i’r Neuadd Fawr am y tro cyntaf ers ei gyngherddau hynod lwyddiannus yma yn 2019 a 2022. Y tro hwn fe’i noddir yn garedig gan Wasanaethau Pensaernïol Rhys Lewis.
Cyflwynir y noson gan Elin Pavli-Hinde o Aberystwyth a bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys yr enillwyr Eisteddfodol Barry Powell ac Efan Williams. Unwaith eto ymunir â Rhys ar y llwyfan gan ei ferch hynod dalentog, Elan.
Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiad gwadd gan Gôr Brythoniad yn dilyn gwahoddiad personol gan Rhys ei hun ac mae’n argoeli i fod yn noson wych o gerddoriaeth Gymraeg o’r safon uchaf.
tocynnau ar werth yma archebwch tocynnau yma