Adroddiad Cyngerdd Llanbedrog
Cartref > Newyddion > Adroddiad Cyngerdd Llanbedrog
Ar y 5ed o Orffenaf ar noson bendigedig mewn lleoliad bendigedig o theatre awyr agored John Ambrose yn Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog fe gynhaliwyd y Cor cyngerdd llwyddianus iawn . Ar wahan ir Cor mi roedd yna pedwar unawdydd o rhengoedd y Cor yn cymeryd rhan. Yn gyntaf fe ganodd Ian Rees or Tenoriaid cyntaf y gân hyfryd " Pedair Oed " ac i ddfilyn Eilir Davies or ail Bass yn canu " Basso profundo am I " . Y trydydd i ganu roedd Dafydd Jones or ail tenor yn canu " Ar Hyd y Nos ' ac i gloi'r noson Rhodri Williams or Bass cyntaf yn canu cân enwog Ralph McTell o " Streets of London " . Fe gynhaliwyd raffle ac ocsiwn ar y noson o dan ofal medrus Glyn Jarrett i godi arian i hogan lloel sef Anna Lowri Roberts sydd yn dioddef o Glefyd Battens, clefyd prin a chreulon sy'n effeithio ar tua 38 o bobl yn y DU yn unig. Diolch i haelioni pawb yno fe godwyd bron i £4000 iddi. Ymdrech wŷch gan bawb. Cafodd y Côr fwyd a lluniaeth ar ôl y cyngerdd a diolch o galon i holl staff y Plas am eu gwaith caled iawn.