Clwb Cerdd Dolgellau
Cartref > Newyddion > Clwb Cerdd Dolgellau
Adroddiad Gan Ben Ridler , Ysgrifennydd Clwb Cerdd Dolgellau :
I ddifynnu cerdd fachlud y Parchedig Eli Jenkins, roedd yn achos o gael a chael ('touch and go') a fyddai Storm Amy yn rhwystro'r cyngerdd oedd ar yr agenda gan Gôr y Brythoniaid yng Ngholeg Meirion-Dwyfor nos Wener 3ydd Hydref. Yn y diwedd aeth y sioe yn ei blaen a rhoddwyd perfformiad gwych, gan ddechrau a gorffen gyda'r emynau cyffrous Laudamus (Bryn Calfaria), a Mor Fawr Wyt Ti. Erbyn y diwedd bu'n hawdd dychmygu'r Parchedig Eli yn murmurio unwaith eto – 'Praise the Lord! We are a musical nation.' Flwyddyn nesaf mi fydd John Eifion Jones yn dathlu chwarter canrif fel arweinydd y Côr, ar ôl cynnal y traddodiad cryf a sefydlwyd ers y dechrau ym 1964 gan Meirion Jones o Flaenau Ffestiniog, cartre'r Côr hyd heddiw. Yn denor rhagorol ei hun (enillydd y Rhuban Glas ym 1999), dangosodd John Eifion berthynas reddfol â'i gantorion, gan arwain (heb gopi) bob un o'u deg eitem mewn ffordd hyblig a lwyddodd i greu ystod eang o ddeinamig, o bianissimo i'r forte llawn a ddisgwylir gan gôr o'r fath. (Roedd y tywydd wedi lleihau eu maint, ond nid oedd y sain yn wan o'r herwydd.) Mewn dwy eitem, hwiangerdd Maori Hine e Hine a'r emyn terfynol, trodd John at y gynulleidfa a chanu'r pennill agoriadol ei hun, gyda'i legato cynnes yn rhoi cyflwyniad teilwng i bob un. Cafwyd gan y côr repertoire gyfoethog ac amrywiol, yn ymestyn o fedli Ryan Davies, trefniant corawl (Nos 'di Derfyn) o Nessun Dorma, ac Engyl Wylia Drosof Fi; hyd at When I Need a Friend gan Coldplay, â'i geiriau ystyrlon ('Slowly, slowly Violence, end') a oedd yn falm yng nghyd-destun y newyddion mor greulon sydd gyda ni ar hyn o bryd. Cyfranwyd hefyd gan ddau unawdydd ardderchog o blith y côr. Clywyd gan y bas Eilir Davies O Isis und Osiris o waith Mozart a'r gân gomig A Basso Profundo am I, gyda'i nodiadau isel profundo yn gyd-fynd yn berffaith. Nes ymlaen rhoddodd y bariton Rhodri Williams ddehongliad teimladwy o Tell my Father (o'r sioe gerdd The Civil War), ac un atmosfferig o A Rainy Night in Soho gan Shane MacGowan – ei arddull hamddenol, a thinc cynnes ei lais, yn swynol iawn. Ychwanegodd yr unawdydd gwadd Edryd Williams ddimensiwn arall gyda'i bedair cân, yn enwedig yn ei gyflwyniad brwdfrydig (gydag ystumiau addas) o Reviewing the Situation gan Fagin. Talodd ar ei ganfed ei ddewis annisgwyl o gân dawel i orffen, un llai adnabyddus, sef Y Gân Olaf gan Ryan Davies. Nid yw cyfeilwyr yn cael llawer o gyfle am seibiant, ac yn wir yr oedd Elizabeth Ellis yn brysur iawn drwy'r amser (mewn neuadd gyfarwydd iddi ers ei dyddiau fel disgybl Ysgol Dr Williams). Yn gyfeilydd iddynt ers 1984, mae Elizabeth wedi mynd yn rhan annatod o lwyddiant y Brythoniaid dros gyfnod hir. Rhaid cydnabod hefyd y medrfusrwydd arbennig sydd ei angen wrth ymateb i dehongliadau unawdwyr (yn enwedig mewn caneuon theatrig fel yr un o enau Fagin), dan ganolbwyntio'n agos ar ddeinameg ac amseriadau; gyda'i chymorth, llwyddodd y cantorion hyn i roi'r gorau o'u hunain. Diolch o galon i'r cerddorion a'r gynulleidfa i gyd am roi, serch gwynt a glaw, ddechreuad mor hwylus i dymor 2026-2027. Many thanks Diolch Yn Fawr