Cyngerdd Nadolig yn Y Wyddgrug

Cartref > Newyddion > Cyngerdd Nadolig yn Y Wyddgrug

Ar y 12fed o Ragfyr 2015, mi gymerodd y Côr,  ynghyd â Chôr Rhuthin o dan Arweiniad Robat Arwyn  a Band Arian Deiniolen o dan arweiniad 
medrus Lois Eifion, rhan mewn cyngerdd Nadolig hyfryd yn Neuadd Fawr Ysgol Bryn Coch yn yr Wyddgrug. 
Clywodd y gynulleidfa lawn gymysgedd o gerddoriaeth o Garolau i ganeuon traddodiadol gyda'r Band yn cyflwyno 
gwledd wirioneddol o gerddoriaeth Nadoligaidd . 
Daeth y cyngerdd i uchafbwynt addas gyda'r tri yn ymuno mewn perfformiad or Carol  "Iesu Yw". 
Roedd y cyngerdd cyfan dan gapteiniaeth wŷch Nic Parry.

Pob newyddion