Cyflwyno Sieć

Cartref > Newyddion > Cyflwyno Sieć

Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn ym Mhlas Glyn-y-Weddw ar ddydd Mawrth y 26ain o Awst pan ddaeth Anna Roberts a'i theulu o Sarn Mellteyrn draw i'n gweld. Mae Anna yn dioddef o Glefyd Batten CLN3. Ar y 5ed o Orffennaf cynhaliwyd cyngerdd arbennig gan Gôr y Brythnoniaid yn theatr awyr agored Plas Glyn-y-Weddw. Yn ystod yr egwyl cynhaliwyd arwerthiant a raffl arbennig i godi arian at Gronfa Gymorth Anna. Diolch i haelioni llawer o bobl, gan gynnwys rhoddion arbennig ar gyfer yr arwerthiant gan yr Arglwydd Mervyn ag Arglwyddes Jeanne Davies o Abersoch, codwyd cyfanswm anhygoel o £4,732 ar y noson! 🎉 Yr wythnos hon daeth Anna draw i'r Plas i'n cyfarfod, gyda'i mam Laura Roberts a'i modryb Llinos Roberts. Cyflwynwyd siec i'r gronfa gan John Eifion Jones (arweinydd Côr y Brythnoniaid) a Gwyn Jones (Cyfarwyddwr Plas Glyn-y-Weddw). Bydd yr arian a gyflwynir yn cyfrannu at ymgyrch gan y teulu i brynu cadair drydan arbennig i Anna. 📸 𝘈𝘯𝘯𝘢 𝘙𝘰𝘣𝘦𝘳𝘵𝘴, 𝘑𝘰𝘩𝘯 𝘌𝘪𝘧𝘪𝘰𝘯 𝘑𝘰𝘯𝘦𝘴, 𝘓𝘢𝘶𝘳𝘢 𝘙𝘰𝘣𝘦𝘳𝘵𝘴 (𝘔𝘢𝘮), 𝘎𝘸𝘺𝘯 𝘑𝘰𝘯𝘦𝘴, 𝘓𝘭𝘪𝘯𝘰𝘴 𝘙𝘰𝘣𝘦𝘳𝘵𝘴 (𝘔𝘰𝘥𝘳𝘺𝘣).

Pob newyddion