Côr y Brythoniaid © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Festival No.6

Fel y dywedir ‘Dyma ni eto’ mae’r trefnwyr Festival No6 yn dilyn ein llwyddiant yn 2012 wedi gwahodd y Côr yn ôl yn 2013 ac o ganlyniad maer Côr wedi bod yn dysgu caneuon newydd erbyn yr Ŵyl flwyddyn yma. Mae hwn wedi golygu dysgu caneuon sydd yn bell o ganu traddodiadol cymraeg ag y gellir bod ond wedi dweud hynnu mae’r Côr wedi cael hwyl ofnadwy yn eu dysgu ac mae’r cynnydd terfynol yn wych. Mae ein arweinydd a cyfeilydd wedi bod yn gweithio yn eithriadol o galed i gael y caneuon mewn trefn. Ar y 6ed o Orffennaf cafwyd diwrnod o recordio’r caneuon yn y Ganolfan ym Morthmadog ac yn dilyn hwnnw ar y 14eg o Orffennaf, diwrnod bendigedig yn Portmeirion ei hun yn ffilmio’r fideo i hysbysebu’r ŵyl ar Youtube. Cafwyd hwyl aruthrol yn yr haul poeth, ond am gefndir. Diolch ir criw ffilmio am eu gwaith caled. Mae hyd yn oed yr ymeliad byr yma wedi cynhyrfu pethau ar tudalenau ‘ twitter’ yr Ŵyl ar Brythoniaid. Mi fydd yn mynd yn llawer brysurach yn yr wythnosau nesaf. Gwyliwch y wefan am fwy o fanylion a datblygiadau. G: http://www.festivalnumber6.com/ F: https://www.facebook.com/Brythoniaid
Festival No6 2013 Wel, ble a sut i ddechrau, dyna’r cwestiwn mawr! Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion! Am benwythnos ac am brofiad anhygoel i’r Côr! Yn dilyn y derbyniad a’r sylwadau gwych a gafodd y fideo hyrwyddo, mater hollol wahanol yw canu’n fyw mewn gŵyl Bop. Wrth i aelodau’r Côr gyrraedd Portmeirion ar y nos Wener ac ymlwybro tua’r Piazza, roedd peth anesmwythder yng nghefn eu meddyliau. Fodd bynnag, buan y daeth yn amlwg fod rhywbeth arbennig ar y gweill wrth i ymwelwyr lu ddechrau eu holi “Pryd da chi’n dechrau canu?”, a thynnu eu lluniau. Wrth i aelodau’r Côr ymgynnull uwchben y Piazza ar yr amser penodedig, gallent weld cannoedd o bobl oddi tanynt ac roedd modd synhwyro’r awyrgylch trydanol. Ac o, am leoliad – gyda’r llifoleuadau yn goleuo’r adeiladau addurnedig, unigryw tu ôl y Côr, roedd yr olygfa’n un hudolus. Yna, daeth yr amser i ni yn cael ein cyflwyno i'r gynulleidfa ac i ni wneud ein ffordd i lawr i’r ardal perfformio. Roedd y croeso a gawsom yn fyddarol, yn gymysgedd gwallgo’ o floeddio a chymeradwyo, yn ddigon i synnu hyd oed aelodau mwyaf profiadol y Côr - profiad bythgofiadwy! Erbyn hyn roedd John Eifion a Liz yn edrych yn eithaf petrusgar ac felly dyma ddechrau gyda’r gân a ddaeth â’r Côr i amlygrwydd ym Mhortmeirion yn 2012, sef “Blue Monday”. Croesawyd y gân gyda bonllef wrth i’r gynulleidfa adnabod y cordiau agoriadol, ac yn fuan roedd 'na lawer o siglo a dawnsio egnïol - rhywbeth eithaf anghyfarwydd i’r Côr! Wedi’r fath ddechreuad gwych aeth y Côr o nerth i nerth, gyda phob cân y cael derbyniad gwresog a gwrandawiad hynod werthfawrogol. I gloi y noson canodd y Côr eu caneuon newydd, sef Design for Life gan y Manic Street Preachers ac Uprising gan Muse, gyda'r dorf yn sefyll fel un i siglo, chwifio breichiau a chyd-ganu. Roedd y profiad yn un gorfoleddus i bob aelod o’r Côr, yn un a fydd yn aros yn y cof am gyfnod maith. Roedd sylwadau’r gynulleidfa ac aelodau’r Côr yn cyd-fynd -“profiad anhygoel!” Gyda dau berfformiad i ddilyn, tybed a fyddai modd ail greu'r fath awyrgylch? Doedd dim angen pryderu - roedd yr ymateb ar y nos Sadwrn a’r nos Sul yr un mor wefreiddiol. Ar ddiwedd y tri pherfformiad roedd aelodau’r Côr ar ben eu digon, ac er iddynt berfformio pedair noson yn olynol, ni chlywyd neb yn cwyno nag yn edliw. Gallwn ymfalchïo yn y sylwadau a glywyd yn sgil ein perfformiadau ac a fynegwyd ar dudalennau Twitter a facebook y Côr. Bydd y ffaith fod cymaint o bobl ifanc wedi dod atom i’n llongyfarch a dweud bod yr achlysur cyfan yn 'wych', yn aros gyda ni am amser hir iawn. Llawer o ddiolch i drefnwyr yr Ŵyl ac i'r staff a wnaeth y digwyddiad yn brofiad bythgofiadwy, ond yn enwedig i'r bobl a ddaeth i wrando arnom, gan eistedd ar gadeiriau llaith neu sefyll ar dir lleidiog drwy wynt a glaw !! - unrhyw fan ble roedd modd gweld a chlywed y Côr ... Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.
Gŵyl Rhif 6 2018 Yn ystod 2018 deallwyd mai hon fyddai’r Ŵyl ddiwethaf, am y tro o leiaf. Roedd yr Ŵyl wedi dod yn rhan o fywyd y Côr ers 2012 ac wedi ein cyflwyno i brofiadau newydd, tra’n cyflwyno profiadau newydd i gynulleidfa newydd. Roedd wedi gweithio’n ardderchog dros y blynyddoedd….os yw cynulleidfa o 3,500 yn arwydd o lwyddiant! Wedi trafod gyda’r trefnwyr penderfynwyd y byddai’r Côr yn ymddangos unwaith yn unig y tro hwn, sef ar y nos Sadwrn, ond y byddem yn cael ‘spot’ o awr, a oedd yn sylweddol hirach na’r 15 munud a gafwyd yn 2012. Penderfynodd ein harweinydd y byddai’r Côr yn cyflwyno caneuon modern roeddem wedi eu perfformio yn y Gwyliau blaenorol, caneuon megis ‘One day like this’ gan Elbow a ‘Skin’ gan Rag’n’bone man, ynghyd â nifer o ganeuon mwy traddodiadol. Roedd y paratoadau yn o debyg i bob blwyddyn arall, gan ddechrau gyda phrawf sain ar y nos Iau. Daeth cynulleidfa dda i wrando ar ein prawf sain hyd yn oed! Yna ymlaen i’r nos Sadwrn. Dechreuodd y noson yn addawol iawn gyda’r tywydd yn sych ac wrth inni ymgynnull roedd ein haelodau newydd wedi’u syfrdanu gan faint y gynulleidfa o’n blaenau - felly hefyd yr hen aelodau, mewn gwirionedd. Mi roedd yna bobl cyn belled ag y gwelwn â’r awyrgylch yn drydanol, gyda phob cân yn cael ymateb anhygoel. Ymysg yr uchafbwyntiau oedd y gân gyfarwydd ‘Amen’ - yr hyn a’i gwnaeth yn arbennig oedd bod canoedd, os nad miloedd o ffonau symudol wedi eu goleuo ac yn cael eu chwifio gan y gynulleidfa …. profiad gwych a chofiadawy iawn. Ac wedi’r gân olaf, gyda galwadau’r gynulleidfa am encore yn atseinio o amgylch y Piazza, sylw pob un ohonom oedd, “Hon oedd yr orau!” Mae yna lu o bobl yn haeddu gair diffuant o ddiolch am y cyfle i berfformio yng Ngŵyl Rhif 6, cyfle y byddai nifer helaeth o gorau yn breuddwydio am ei gael. Yn gyntaf, diolch i’n tîm cerdd ni, sef John Eifion, am arwain, cyflwyno a chanu yn wych a hefyd Elizabeth, ein cyfeilyddes, am gyfeilio yn arbennig yn y tywyllwch, glaw a gwynt…brilliant. I Luke Bainbridge am edrych ar ein holau dros y blynyddoedd a rhoi cyflwyniad gwych i ni pob blwyddyn, i'r hogiau goleuo a sain ac i Bortmeirion am wneud Gwŷl Rhif 6 yn ŵyl arbennig a bythgofiadwy. Diolch yn fawr.