Côr y Brythoniaid © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
17/5/17 - Taith i Iwerddon Pasg 2017 Ben bore dydd Sadwrn, Ebrill 8fed, aeth hanner cant o aelodau Cor y Brythoniaid, ynghyg ag oeddeutu pump ar hugain o gefnogwyr, ar wibdaith i’r Ynys Werdd. Wedi cyrraedd porthladd Dulyn aethpwyd ymlaen i dref Athy yn Swydd Kildare, taith a gymerodd ychydig dros awr. Yno ar gyrion y dref, cawsom ein croesawu i ganolfan Cuan Mhuire. Mae’r ganolfan hyfryd hon, sy’n un o nifer o ganolfannau cyffelyb ledled Iwerddon, yn cynnig cymorth i bobl sydd yn gaeth i gyffuriau neu alcohol. Fe’i gweinyddir gan sefydliad crefyddol y Ganolfan roedd pibydd mewn gwisg Wyddelig yn ein harwain i’r maes parcio. Mawr oedd gwerthfawrogiad y teithwyr o’r croeso a’r te hyfrd a oedd yn ein disgwyl yn ffreutur y Ganolfan. Wedi’r te aethpwy allan i amffitheatr awyr agored lle canodd y Cor hanner dwsin o ganeuon i’r gynulleidfa werthfawrogol. Aethpwyd ymlaen oddi yno I ganol y dref lle cafwyd ychydig oriau i ymlacio a chrwydro yn yr heulwen braf. Cyn y cyngerdd fin nos yn Eglwys Sant Michael cafodd yr holl deithwyr swper blasus gan drefnyddion y cyngerdd, sef Clwb Llewod Athy. Roedd yr eglwys yn orlawn ar gyfer y cyngerdd, gyda’r trefnyddion yn gosod nifer helaeth o seddau ychwanegol, ond serch hynny bu’n rhaid I nifer sefyll yng nghefn yr eglwys. Braf oedd cael rhannu’r llwyfan gyda chor plant o’r ysgol leol a Brian Hughes, un o bibyddion pennaf Iweddon. Wedi’r cyngerdd teithwyd I dref Kilkenny, awr o siwrne, lle treuliwyd dwy noson mewn gwerty hyfryd. Mae Kilkenny yn dref a llawer iawn o hanes yn perthyn iddi a braf oedd cael cyfle ar y dydd Sul a’r bore Llun i grwydro’i strydoedd, ymweld a’i heglwysi niferus, y castell a’i barc, neu gerdded ar hyd glannau’r afon Nore. Ar y prynhawn Sul cynhaliwyd cyngerdd yn eglwys hardd Sant Ioan. Unwaith eto daeth cynulleidfa luosog i wrando ar y Cor, ynghyd ag unawdydd a thrwmpedwr lleol. Mawr oedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa o lais swynol John Eifion fel unawdydd mewn ambell gan. Fel ar y noson flaenorol, ar ddiwedd y cyngerdd cododd y gynulleidfa ar ei thraed fel un i fynnu encore. Roedd y Cor wedi paratoi un eitem arbennig ar gyfer y daith, sef fersiwn digyfeiliant o Amhran na bhFiann, anthem genedlaethol Iwerddon ac felly daeth y cyngerdd i ben gyda’r ddwy anthem genedlaethol yn eu tro yn atseinio yn ein clustiau. Gwerthfawrogwyd y croeso bendigedig a gafwyd a’r trefniadau effeithiol a wnaed ar gyfer y Cor gan glybiau Llewod Athy a Kilkenny. Ers y daith arbennig hon yn hir yn y cof.
24/10/16 Roedd dydd Llun, Hydref 18fed yn ddiwrnod arbennig iawn i Gôr y Brythoniaid oherwydd cafwyd cyfle i gymryd rhan yn y dathliadau ym Manceinion i anrhydeddu ac i gydnabod camp holl gystadleuwyr y Deyrnas Gyfunol a gymerodd ran yn y Gemau Olympaidd a’r Gemau para Olympaidd yn Rio yn ddiweddar. Daeth y gwahoddiad i gymryd rhan oddeutu deg diwrnod yn ôl ac oherwydd y byr rybudd nid oedd modd i John Eifion, arweinydd y Côr, fod yn bresennol. Serch hynny, derbyniwyd y gwahoddiad oherwydd roedd is-arweinydd dawnus y Côr, Mr Huw Alan Roberts, yn fodlon camu i’r bwlch. Doedd y trefniadau ar gyfer y diwrnod ddim yn rhai sicr o gwbl ac roeddynt yn newid o ddydd i ddydd. Fel roeddem yn cychwyn ar ein taith i Fanceinion y bwriad oedd i ganu dwy gân ar y llwyfan awyr-agored o flaen Neuadd y Ddinas ac yna i ganu tair cân yn y neuadd gyda’r hwyr i ddiddanu’r cystadleuwyr a phobl bwysig eraill megis maer y ddinas a Theresa May, y prif weinidog - ond nid felly y bu! Fel roeddem yn teithio ar hyd yr A55 daeth y newyddion nad oedd modd i’r trefnwyr gwblhau'r gwiriadau diogelwch angenrheidiol o fewn yr amserlen dynn ac o ganlyniad byddai’n rhaid bodloni ar ganu ar y llwyfan awyr-agored. Wedi cyrraedd aethpwyd yn syth i’r llwyfan eang o flaen neuadd urddasol y Ddinas i brofi’r system sain ac i ymarfer. Ond nid felly y bu! Oherwydd nam technegol nid oedd modd i Elizabeth Ellis, cyfeilydd y Côr, ddefnyddio’r allweddellau arferol ond yn ffodus cafwyd benthyg allweddellau grwp enwog y Kaiser Chiefs a oedd yn perfformio ar ôl y Côr! Fel roedd y Côr yn paratoi i ganu dyma hyrddiad sydyn o wynt yn dymchwel traean y llen enfawr ‘Heroes Parade’ a grogai tu cefn iddynt. Yn ffodus, doedd neb yn sefyll oddi tan y llen pan ddymchwelodd oherwydd gallasai fod wedi achosi niwed sylweddol! Fe achosodd hyn oediad o thua awr cyn i’r Côr gael dychwelyd i’r llwyfan i berfformio dwy gân gyfoes sydd yn gysylltiedig â Manceinion, sef ‘Blue Monday’ gan New Order a ‘One Day Like This’ gan Elbow. Cafwyd derbyniad gwresog iawn, gyda'r dorf enfawr yn Sgwâr Albert yn ymuno yng nghorws anthemig y gân ddiwethaf. Diwrnod i'w gofio ym mhob ystyr!

Newyddion

24/11/2018 - Cyngerdd Machynlleth Ar y 24eg o Dachwedd fe cynhalwyd cyngerdd yn y Tabernacle yn Machynlleth ar ol gwahoddiad gan Clwb Cerddoriaeth Machynlleth. Dyma oedd y tro cyntaf ir Cor ganu yno ers rhai blynyddedd ac mi roed yn braf bod yn ol yn yr adeilad gwych yma i ganu. Y problem cyntaf oherwydd nifer y Cor oedd cael lle ffurfio yn barod am y cyngerdd. Fe atebwyd hwn trwy lleoli y Tenoriaid cyntaf yn y gallery gyferbyn ar Ail Bas gydar Ail tenoriaid ar Bas cyntaf ar y llwyfan yng nghorff y capel. Fe gafwyd ymarfer cyn ir cynulleidfa gyrraedd ac er fod yna pryder sut oedd ffurf y Cor yn mynd i effeithio ar y swn, nid oedd angen poeni mi roedd yr ‘acoustics’ fel petai yn wych ac yn ei wneud yn hawdd i ganu. Mi roedd y cor yn ffodus iawn i gael gwasanaeth pedwar unawdydd or cor i gymeryd rhan. Rhywbeth sydd heb ddigwydd ers llawer o flynyddoedd sef Robin Gruffudd (Bas 1af) Dewi Thomas (Tenor 1af) , Eilir Davies (2il Bas) a Rhodri Williams (Bas 1) ond yn anffodus fe roedd Rhodri yn sal ar y noson ac yn methu canu. Mi roedd yna cynulleidfa gwych ac mi roedd yn noson fendigedig gyda pawb ar eu traed ar y diwedd. Roedd y cor yn Falch iawn o weld Elfyn a Kath Pugh, ein llywydd ac Is lywydd yn y gynulleidfa. Mi roedd y Cor yn Falch iawn o groesawu photograffydd talentog iawn i ymuno a ni ar y noson sef Etienne Bruce, nawr o Llundain, a odd yn gyfrifol am tynnu lluniau gwych or noson. Fe fydd Etienne yn canlyn y cor am y misoedd nesaf i gyflawni project arbennig. Dyma oedd unawdwyr y Cor ar y noson - Robin Gruffudd, Dewi Thomas, Eilir Davies a Rhodri Williams.
27/2/2019 - GŴYL GERDDOROL MRS SUNDERLAND 2019 - CHWEFROR 23ain - NEUADD Y DREF HUDDERSFIELD. Dydd Gwener Chwefror 22ain 2019, wedi misoedd o ymarfer, fe deithiodd y Côr, ynghyd â nifer helaeth o gefnogwyr, i Huddersfield i gystadlu yn yr Ŵyl fawreddog hon ar gyfer corau ac amrywiol gystadleuwyr eraill o bob cwr o'r wlad. Roedd y Côr yn cystadlu mewn dwy gystadleuaeth, sef y Corau Meibion a'r Her Gorawl Agored. Yn y gystadleuaeth gyntaf roeddem yn erbyn dau gôr meibion da iawn sef Côr Meibion Skelmanthorpe a Chôr Meibion Peterborough (y ddau gôr wedi ennill y gystadleuaeth hon yn y gorffennol). Roedd yr ail gystadleuaeth yn yr Adran Agored, felly byddai'r Côr yn cystadlu yn erbyn corau meibion, corau merched a chorau cymysg, dipyn o her. Ar ôl noson dda o orffwys fe deithiodd y Côr yr ychydig filltiroedd i’r Neuadd Gyngerdd odidog yn Neuadd y Dref Huddersfield. Byddai aelodau’r Côr yn cadarnhau fod canu ar lwyfan y neuadd yn brofiad gwefreiddiol. Roedd John Eifion, ein harweinydd wedi ein rhybuddio fod angen creu argraff o’r dechrau’n deg ac felly dewisodd 'Heriwn, wynebwn y Wawr' gan Gareth Glyn, cân sydd ag agoriad trawiadol a phwerus. Fe aeth honno’n dda ac felly hefyd ein hail gân, sef "Agnus Dei" gan Bizet. Yna, rhaid oedd disgwyl am y dyfarniad - cyfnod o gnoi ewinedd! Roedd sylwadau'r beirniad ar gyfer y tri Chôr yn gadarnhaol a chanmoliaethus, yn wir roedd yn anodd iawn dirnad pwy oedd wedi ennill. Yna, aeth ymlaen i gyhoeddi’r drefn: 1af Brythoniaid 2il Peterborough 3ydd Skelmanthorpe. Roedd y Côr a'r cefnogwyr ar eu traed yn cymeradwyo wrth i John Eifion ddringo i’r llwyfan i gasglu Tlws Brighouse. Dyma’r tro cyntaf mewn pedair blynedd ar hugain i Gôr o Gymru ennill y gystadleuaeth hon. Dechreuad gwych oedd yn golygu bod y Côr yn cael mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Côr yr Ŵyl y noson honno. Wedi seibiant byr daeth yn amser ein hail gystadleuaeth, sef yr Her Agored. Y tro hwn dechreuodd y Côr gyda “Prayer” allan o Lohengrin gan Wagner, y darn hwn hefyd yn dechrau’n bwerus, gyda’r baswyr yn cael cyfle i fynd trwy’u pethau - roedd hyd yn oed y tenoriaid yn cydnabod eu bod yn swnio’n dda. Yna, dyma newid cywair yn gyfan gwbl gyda’n ail gân, un digyfeiliant y tro hwn, sef yr hwiangerdd “Cyn cau llygaid”. Llwyddodd y côr i greu awyrgylch priodol, gan swyno’r gynulleidfa. Ein cân olaf oedd “Anthem” o’r sioe gerdd Chess - ffefryn cyfarwydd sydd yn gorffen ar nodyn gorfoleddus. Roedd yn amlwg o’r gymeradwyaeth ar y diwedd fod gennym siawns o fod “yn y ffrâm”. Unwaith eto fe ddaeth y feirniadaeth yn gyflym a sylwadau’r beirniad yn rhai cadarnhaol ac adeiladol ar gyfer pob côr. Gallech fod wedi torri'r awyrgylch gyda chyllell wrth i bawb ddisgwyl yn eiddgar am y canlyniad. Fel hyn y gosodwyd ni. 1af Brythoniaid 2il Peterborough Voices 3ydd Harmonia (Ladies) Choir Gallwch ddychmygu fod y Côr a'r cefnogwyr yn gorfoleddu ac ar eu traed am yr eildro. Prin fod angen dweud fod John Eifion yn eithaf hapus hefyd! Yna, yn goron ar y cyfan, daeth canlyniad y Raffl Fawr, gydag Ysgrifennydd y Côr, Phill Jones, yn ennill y wobr gyntaf o £100. Roedd y duwiau yn sicr yn edrych i lawr yn ffafriol arnom. Roedd bwlch o thua awr rhwng cyfarfod y prynhawn a’r nos, dim ond digon o amser i ddod o hyd i sefydliad lleol lle'r oedd gêm rygbi arbennig yn cael ei darlledu! Wedi canfod sefydliad addas dyma sleifio i mewn yn dawel bach, tasg anodd i ddeugain o ddynion nobl. Siom oedd gweld y sgôr ar yr hanner â sain Sweet Chariot yn atseinio. Rhaid oedd ymateb i’r her ac felly dyma ganu Calon Lân ac yna Hymns and Arias ..... a wyddoch chi beth? Dechreuodd Gymru sgorio! Yn fuan iawn roedd y Sweet Chariot wedi colli olwyn a gofynnwyd inni roi'r gorau i’r canu mewn ymgais i atal llif y pwyntiau ... gallwch ddychmygu beth oedd yr ymateb! Ar ôl y gêm fawr, a phawb mewn hwyliau da dychwelodd y Côr i'r Neuadd, lle 'roedd enillwyr yr holl gystadlaethau Corawl yn eistedd, yn barod ar gyfer her olaf y diwrnod. Roeddem wedi penderfynu erbyn hynny mai mwynhau ein hunain a diddanu’r gynulleidfa fyddai’n nod yn y gystadleuaeth olaf. Yn ôl y drefn roeddem yn canu yn bumed allan o chwech ac felly cawsom gyfle i wrando ar ddatganiadau nifer o gorau safonol iawn. Yna fe ddaeth ein tro ni. Fe aethon ni i'r llwyfan a synnu pawb trwy ganu One Day Like This gan Elbow, cân bop gyfoes gyda diweddglo anthemig - roedd yn amlwg fod y gân wedi plesio’r gynulleidfa. Dilynwyd honno gydag O Sole Mio, gyda'n harweinydd yn canu’r penillion a’r Côr yn uno yn y cytgan. Braf oedd clywed y gynulleidfa gyfan yn ymuno i ganu "Just one Cornetto" ar un adeg. Wrth i nodyn olaf y gân atseinio o amgylch y neuadd roedd cyfran helaeth o’r gynulleidfa ar eu traed ac fe barhaodd y gymeradwyaeth nes bod pob aelod o’r Côr wedi dychwelyd i’w sedd. Dychwelodd yr Arweinydd Llwyfan gan ddweud nad oedd wedi gweld hynny yn digwydd o’r blaen. Yna daethpwyd at y dyfarniad - roedd dwy elfen i’r dyfarniad, sef y perfformiad gorau ar y noson a’r gân orau a ganwyd yn ystod yr Ŵyl gyfan. Fe aeth y wobr “Côr yr Ŵyl” i'r côr merched ardderchog sef Peterborough Voices, a nhw hefyd enillodd y wobr am y perfformiad gorau o gân yn ystod y dydd, sef y "Kyrie" – roeddynt yn enillwyr haeddiannol iawn. Y Brythoniaid ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth Côr yr Ŵyl, canlyniad boddhaol iawn. Drwyddi draw, roedd y penwythnos yn un wych, nid yn unig oherwydd y cystadlu a’r canlyniadau ond am y cyfle i gymdeithasu gyda’n cefnogwyr a'n ffrindiau, gan gynnwys ein Llywydd Elfyn Pugh a'r Is-lywyddion Kath Pugh ac Ian Brown, ac i weld ffrindiau nad oeddem wedi eu gweld ers peth amser. Dyma oedd pen llanw wythnosau o ymarfer a roddodd brawf ar stamina ac amynedd John Eifion ac Elizabeth Ellis, ein “Tîm Cerddorol”. Mae’r Côr yn ffodus iawn o’u cael ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu gwaith a'u hymrwymiad. Ymlaen â’r gân!
13/8/2019 - EISTEDDFOD GENEDLAETHOL SIR CONWY (LLANRWST) 2019 Gyda'r Eisteddfod yn cael ei chynnal bron ar garreg drws y Côr, roedd disgwyliad y byddem yn cystadlu eleni ond y tro hwn gydag ychwanegiad cyffrous .... roeddem yn mynd i gystadlu yng nghystadleuaeth y Côr Cymysg hefyd! Heuwyd hedyn y syniad o gydweithio gyda Chôr Seiriol, côr merched ardderchog o ardal Bangor, yn sgil rhannu llwyfan â hwy mewn cyngerdd ar y cyd a gynhaliwyd yn ystod mis Ebrill, 2018. Tyfodd y syniad a daeth yr arweinwyr, sef John Eifion a Gwennant Pyrs, i ddealltwriaeth, a lluniwyd rhaglen o ganeuon ar gyfer y fenter hon. Misoedd yn ddiweddarach ffurfiwyd Côr y Llechen Lân ac ar ôl nifer o ymarferion ar y cyd roedd y côr newydd yn barod i berfformio. Roedd y côr, gyda chant dau ddeg a phump o gantorion, yn cynhyrchu sain bwerus a gwych. Erbyn hyn, roedd y Brythoniaid, gyda llawer o anogaeth a pherswâd gan John a Gwennant, wedi dechrau arfer gyda’r ffaith fod yna leisiau newydd, anghyfarwydd, o’n cwmpas. Beth bynnag fyddai’r canlyniad terfynol, roeddem yn barod ar gyfer y gystadleuaeth, a oedd yn un gref, gyda naw o gorau cymysg sefydlog a phrofiadol yn cymryd rhan. Roedd y Côr yn canu yn drydydd ac roedd tipyn o gyffro yn y gynulleidfa wrth i’r cant dau ddeg a phump aelod gyrraedd a ffurfio’n drefnus ar y llwyfan.
Cafodd Gwennant y fraint a’r dasg heriol o arwain y gân gyntaf sef “Dies Irae” gan Mozart, cân sydd ag agoriad fff - cân a fynnodd sylw’r gynulleidfa! Gyda’r gân gyntaf wedi ei chwblhau yn llwyddiannus daeth tro John Eifion i arwain y côr. ‘Y Ddaear” gan Ola Gjeilo oedd y gân dan sylw ac fe aeth yn arbennig o dda. Y drydedd gân oedd “Henffych Fair” gan Rachmaninov, gyda Gwennant wrth y llyw. Hwyrach mai'r gân ddigyfeiliant hon oedd yr anoddaf yn rhaglen y côr ond roedd yn swnio’n hyfryd. Y gân olaf, gyda John yn arwain, oedd “Rhosyn yr Iôr” - roedd y gân yma wedi dod o le pell mewn byr amser ac roedd calonnau’r cantorion yn llawn balchder wrth gyrraedd y nodau olau dyrchafol. Roedd ymateb y gynulleidfa yn frwdfrydig a ffafriol dros ben. Ar ôl dim ond chwe ymarfer ar y cyd roedd y Côr wedi cynhyrchu perfformiad o safon, yn un `roeddem i gyd yn falch iawn ohono. Na, doedden ni ddim yn y tri cyntaf, ond hoffai'r Brythoniaid ddiolch i Gôr Seiriol am fod yn ddigon dewr i ganu gyda ni, gan roi profiad arbennig i’r bechgyn, profiad a fydd yn aros yn y cof am amser hir. Ymlaen â ni i ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod a chystadleuaeth y Corau Meibion, cystadleuaeth gref gyda phymtheg o gorau da yn cymryd rhan, y nifer uchaf ers blynyddoedd maith. Y Brythoniaid oedd y nesaf i’r olaf i ymddangos ar y llwyfan ac roeddem eisoes wedi clywed nifer o berfformiadau da iawn cyn i’n tro ni gyrraedd. Roedd yn rhaid i ni gynhyrchu perfformiad eithriadol o dda os am greu argraff ffafriol. Roeddem yn canu pedair cân, “, Wynebwn y Wawr”, “Cyn cau Llygaid”, “Harbwr Corc (a oedd yn cynnwys rhywfaint o gyd-siglo, tasg go heriol i’r Côr! Bu bron i ni orfod cael pwyllgor i benderfynu pa ffordd i fynd yn gyntaf !!), ac i orffen 'Gweddi' o Lohengrin, gan Wagner. O'r cychwyn cyntaf roedd yn amlwg fod meddwl John Eifion, Liz a phob aelod o’r côr yn llwyr ar y dasg dan sylw ac o ganlyniad llwyddwyd i gynhyrchu perfformiad arbennig o dda, gydag adran y baswyr yn cael cyfle i arddangos eu dawn yn y gân olaf. Braf oedd gweld sawl aelod o'r gynulleidfa ar eu traed yn cymeradwyo ar ddiwedd y perfformiad.
Roedd y mater bellach yn nwylo’r tri beirniad ac ymhen amser daeth y cyhoeddiad … yn 1af John’s Boys, yn ail 2il Côr y Llannau ac yn 3ydd, Y Brythoniaid. Byddai buddugoliaeth wedi bod yn braf ond nid oedd yna unrhyw wynebau siomedig ymysg yr aelodau oherwydd roedd dod yn 3ydd allan o bymtheg, gan roi’r fath berfformiad, yn destun balchder aruthrol. Fel yr ydym wedi dweud droeon, mae ein dyled i’n tîm cerddorol, sef John Eifion a Liz, yn enfawr. Nid oes amheuaeth na fyddai'r Côr yn cyrraedd y fath safon heb eu cyfraniad amhrisiadwy hwy. Diolch o galon i’r ddau ohonynt.
GŴYL MRS SUNDERLAND YN HUDDERSFIELD Dydd Sadwrn, Chwefror 25ain bu’r Côr yn cystadlu yng Ngŵyl Mrs Sunderland https://www.mrssunderlandfestival.com yn Neuadd y Dref fawreddog Huddersfield. Gwŷl Mrs Sunderland yw’r peth agosaf sydd ganddynt yn Lloegr i eisteddfod. Mae’n para am un diwrnod ar ddeg a cheir cystadlaethau offerynnol, llefaru a chanu ar gyfer unigolion a chorau o bob lliw a llun. Bu pedair mil o berfformwyr yn cymryd rhan yn yr Ŵyl eleni. Mae’r Brythoniaid wedi profi llwyddiant yn yr Ŵyl hon yn y gorffennol a phleser oedd cael cymryd rhan yng ngŵyl 2023. Daethom yn 2il i ensemble o Peterborough yn y gystadleuaeth i gorau meibion. Dau ddeg a dau o aelodau oedd yn yr ensemble ac er nad oedd modd iddynt gynhyrchu’r canu pwerus `rydym yn arfer ei gysylltu â chorau meibion roeddynt i gyd yn gantorion o fri a’r gallu ganddynt i ganu darnau technegol cymhleth a hynny yn ddigyfeiliant. Roedd gan ei harweinydd ensemble merched hefyd oedd yn canu yn yr un arddull. Daeth y Brythoniaid yn drydydd i’r corau o Peterborough yn y gystadleuaeth agored i gorau. Detholir pump o gorau i gymryd rhan yn y Cyngerdd Gala ar nos Sadwrn olaf yr Ŵyl a braf i’r Brythoniaid oedd cael bod yn eu mysg. Cafwyd ymateb brwdfrydig i berfformiadau’r Côr yn y prynhawn a’r nos ac edrychwn ymlaen i gael dychwelyd i Huddersfield rhywdro yn y dyfodol.
Cyngerdd Apêl Wcrain Nos Sadwrn, Mawrth 4ydd ymunodd y Brythoniaid â'n cyfeillion o Gôr y Penrhyn yng Nghadeirlan Bangor ar gyfer cyngerdd i godi arian tuag at apêl Wcráin DEC. Roedd y gadeirlan yn llawn ar gyfer yr achlysur a chlywyd amrywiaeth o ganeuon o bedwar ban byd ac mewn ieithoedd amrywiol gan y ddau gôr yn eu tro. Addas iawn oedd cael cwmni nifer o ffoaduriaid o'r Wcráin yn y gynulleidfa ar y noson. Cafwyd diweddglo rhagorol i'r noson pan ddaeth y ddau gôr at ei gilydd i ganu "Myfanwy" ac yna "Gwahoddiad". Profiad braf oedd rhannu llwyfan gyda'n cyfeillion o Fethesda a'r ardal gyfagos - llawer o ddiolch iddynt am y gwahoddiad caredig.
Cyngerdd yn Neuadd Goffa Cricieth Nos Sul, Ebrill 16eg bu'r Côr yn cynnal cyngerdd elusennol yn y Neuadd Goffa yng Nghricieth. Prin iawn oedd y seddau gwag yn y Neuadd a chafwyd noson ardderchog gyda'r côr yn canu dwsin o ganeuon (yn ogystal ag encore). Cafwyd ambell unawd, megis "O sole mio" a "Hine, hine" gan John Eifion, ein harweinydd, gyda'r Côr yn canu yn y cefndir. Hefyd, cafwyd unawdau gan bump o aelodau'r Côr sef Dewi Thomas, Eillir Davies, Rhodri Trefor, Rhodri Williams a Dafydd Parry Jones (Dafydd Llanfihangel) - gweler y llun. Roedd cyfeiliant Elizabeth Ellis mor safonol a graenus ag arfer. Diolch iddi hi a John Eifion am eu gwaith. Braf oedd cael cwmni Llywydd Anrhydeddus y Côr, sef Ian McGregor Brown, ar y noson. Llywyddwyd y cyngerdd gan y Parchedig Iwan Llewelyn Jones. `Roedd elw'r noson yn mynd tuag at Apêl "Hadau Gobaith" Cymorth Cristnogol.
Côr y Brythoniaid © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
17/5/17 - Taith i Iwerddon Pasg 2017 Ben bore dydd Sadwrn, Ebrill 8fed, aeth hanner cant o aelodau Cor y Brythoniaid, ynghyg ag oeddeutu pump ar hugain o gefnogwyr, ar wibdaith i’r Ynys Werdd. Wedi cyrraedd porthladd Dulyn aethpwyd ymlaen i dref Athy yn Swydd Kildare, taith a gymerodd ychydig dros awr. Yno ar gyrion y dref, cawsom ein croesawu i ganolfan Cuan Mhuire. Mae’r ganolfan hyfryd hon, sy’n un o nifer o ganolfannau cyffelyb ledled Iwerddon, yn cynnig cymorth i bobl sydd yn gaeth i gyffuriau neu alcohol. Fe’i gweinyddir gan sefydliad crefyddol y Ganolfan roedd pibydd mewn gwisg Wyddelig yn ein harwain i’r maes parcio. Mawr oedd gwerthfawrogiad y teithwyr o’r croeso a’r te hyfrd a oedd yn ein disgwyl yn ffreutur y Ganolfan. Wedi’r te aethpwy allan i amffitheatr awyr agored lle canodd y Cor hanner dwsin o ganeuon i’r gynulleidfa werthfawrogol. Aethpwyd ymlaen oddi yno I ganol y dref lle cafwyd ychydig oriau i ymlacio a chrwydro yn yr heulwen braf. Cyn y cyngerdd fin nos yn Eglwys Sant Michael cafodd yr holl deithwyr swper blasus gan drefnyddion y cyngerdd, sef Clwb Llewod Athy. Roedd yr eglwys yn orlawn ar gyfer y cyngerdd, gyda’r trefnyddion yn gosod nifer helaeth o seddau ychwanegol, ond serch hynny bu’n rhaid I nifer sefyll yng nghefn yr eglwys. Braf oedd cael rhannu’r llwyfan gyda chor plant o’r ysgol leol a Brian Hughes, un o bibyddion pennaf Iweddon. Wedi’r cyngerdd teithwyd I dref Kilkenny, awr o siwrne, lle treuliwyd dwy noson mewn gwerty hyfryd. Mae Kilkenny yn dref a llawer iawn o hanes yn perthyn iddi a braf oedd cael cyfle ar y dydd Sul a’r bore Llun i grwydro’i strydoedd, ymweld a’i heglwysi niferus, y castell a’i barc, neu gerdded ar hyd glannau’r afon Nore. Ar y prynhawn Sul cynhaliwyd cyngerdd yn eglwys hardd Sant Ioan. Unwaith eto daeth cynulleidfa luosog i wrando ar y Cor, ynghyd ag unawdydd a thrwmpedwr lleol. Mawr oedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa o lais swynol John Eifion fel unawdydd mewn ambell gan. Fel ar y noson flaenorol, ar ddiwedd y cyngerdd cododd y gynulleidfa ar ei thraed fel un i fynnu encore. Roedd y Cor wedi paratoi un eitem arbennig ar gyfer y daith, sef fersiwn digyfeiliant o Amhran na bhFiann, anthem genedlaethol Iwerddon ac felly daeth y cyngerdd i ben gyda’r ddwy anthem genedlaethol yn eu tro yn atseinio yn ein clustiau. Gwerthfawrogwyd y croeso bendigedig a gafwyd a’r trefniadau effeithiol a wnaed ar gyfer y Cor gan glybiau Llewod Athy a Kilkenny. Ers y daith arbennig hon yn hir yn y cof.
24/10/16 Roedd dydd Llun, Hydref 18fed yn ddiwrnod arbennig iawn i Gôr y Brythoniaid oherwydd cafwyd cyfle i gymryd rhan yn y dathliadau ym Manceinion i anrhydeddu ac i gydnabod camp holl gystadleuwyr y Deyrnas Gyfunol a gymerodd ran yn y Gemau Olympaidd a’r Gemau para Olympaidd yn Rio yn ddiweddar. Daeth y gwahoddiad i gymryd rhan oddeutu deg diwrnod yn ôl ac oherwydd y byr rybudd nid oedd modd i John Eifion, arweinydd y Côr, fod yn bresennol. Serch hynny, derbyniwyd y gwahoddiad oherwydd roedd is-arweinydd dawnus y Côr, Mr Huw Alan Roberts, yn fodlon camu i’r bwlch. Doedd y trefniadau ar gyfer y diwrnod ddim yn rhai sicr o gwbl ac roeddynt yn newid o ddydd i ddydd. Fel roeddem yn cychwyn ar ein taith i Fanceinion y bwriad oedd i ganu dwy gân ar y llwyfan awyr- agored o flaen Neuadd y Ddinas ac yna i ganu tair cân yn y neuadd gyda’r hwyr i ddiddanu’r cystadleuwyr a phobl bwysig eraill megis maer y ddinas a Theresa May, y prif weinidog - ond nid felly y bu! Fel roeddem yn teithio ar hyd yr A55 daeth y newyddion nad oedd modd i’r trefnwyr gwblhau'r gwiriadau diogelwch angenrheidiol o fewn yr amserlen dynn ac o ganlyniad byddai’n rhaid bodloni ar ganu ar y llwyfan awyr-agored. Wedi cyrraedd aethpwyd yn syth i’r llwyfan eang o flaen neuadd urddasol y Ddinas i brofi’r system sain ac i ymarfer. Ond nid felly y bu! Oherwydd nam technegol nid oedd modd i Elizabeth Ellis, cyfeilydd y Côr, ddefnyddio’r allweddellau arferol ond yn ffodus cafwyd benthyg allweddellau grwp enwog y Kaiser Chiefs a oedd yn perfformio ar ôl y Côr! Fel roedd y Côr yn paratoi i ganu dyma hyrddiad sydyn o wynt yn dymchwel traean y llen enfawr ‘Heroes Parade’ a grogai tu cefn iddynt. Yn ffodus, doedd neb yn sefyll oddi tan y llen pan ddymchwelodd oherwydd gallasai fod wedi achosi niwed sylweddol! Fe achosodd hyn oediad o thua awr cyn i’r Côr gael dychwelyd i’r llwyfan i berfformio dwy gân gyfoes sydd yn gysylltiedig â Manceinion, sef ‘Blue Monday’ gan New Order a ‘One Day Like This’ gan Elbow. Cafwyd derbyniad gwresog iawn, gyda'r dorf enfawr yn Sgwâr Albert yn ymuno yng nghorws anthemig y gân ddiwethaf. Diwrnod i'w gofio ym mhob ystyr!