Côr y Brythoniaid © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Hanes

Ym mis Mehefin 1964, ffurfiodd gŵr o Flaenau Ffestiniog, Meirion Jones, gôr meibion a fyddai’n tyfu i fod yn un o’r corau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Ffurfiwyd y côr er mwyn cystadlu mewn eisteddfod fach leol yng Nghapel Hyfrydfa ym Manod ac yn dilyn yr ymddangosiad hwnnw awgrymwyd bod y côr yn perfformio yn y Carnifal lleol rai wythnosau yn ddiweddarach. Yr adeg honno, tua phymtheg o aelodau oedd gan y côr, ond yn sgîl yr anogaeth a gawsant, aethant ati i sefydlu’r côr yn ffurfiol a dechrau ar y gwaith o ddenu aelodau newydd. O’r cychwyn, roedd cystadlu yn rhan annatod o’r gweithgareddau ac fe gafwyd ymddangosiad cyntaf y côr yn Eisteddfod Jiwbilî Llan Ffestiniog yn 1965. Yn dilyn cael llwyddiant yn yr eisteddfod hon, penderfynwyd gwneud 1966 yn fan cychwyn cyfnod hir o gystadlu, cyfnod sydd wedi para tan y dydd heddiw, yn wir. Roedd angen rhagor o aelodau, serch hynny, a dechreuodd arweinydd y côr, Meirion Jones, gyda chymorth gwerthfawr aelod arall, Wyn Morris, deithio o gwmpas yr ardal yn ymweld â darpar aelodau posibl ar gyfer y côr. A thrwy eu hymdrechion hwy cafwyd cynnydd buan yn y niferoedd. Gyda’r cynnydd yn y niferoedd fe ddaeth cynnydd yn llwyddiannau’r côr. Rhwng 1966 a 1974, er enghraifft, fe ellid cymharu llwyddiant y côr â llwyddiant tîm pêl-droed modern gyda’r ystadegau canlynol: 26 o gystadlaethau, 19 ar y brig, 3 ail wobr. Camp i ymfalchïo ynddi. Yn 1969 penderfynodd y côr gystadlu yn ‘yr un fawr’ am y tro cyntaf a dyma gynnig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fflint. Canodd y côr y drydedd salm ar hugain a chawsant eu llwyddiant mawr cyntaf, gyda chanmoliaeth y beirniad yn destament i safon y perfformiad: “Cawsom ein synnu gan y canu gwych ac nid oes gennym eiriau i fynegi ein teimladau. Roedd y rhaglen gyfan yn gylch o artistwaith pur”. Yn 1969 penderfynodd y côr gystadlu yn ‘yr un fawr’ am y tro cyntaf a dyma gynnig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fflint. Canodd y côr y drydedd salm ar hugain a chawsant eu llwyddiant mawr cyntaf, gyda chanmoliaeth y beirniad yn destament i safon y perfformiad: “Cawsom ein synnu gan y canu gwych ac nid oes gennym eiriau i fynegi ein teimladau. Roedd y rhaglen gyfan yn gylch o artistwaith pur”. Cafwyd rhagor o lwyddiant yn 1971 ym Mangor, a oedd yn flwyddyn unigryw yn hanes Blaenau Ffestiniog gyda Chôr Meibion y Moelwyn hefyd yn ennill eu hadran hwy yn yr un eisteddfod. Camp ddwbl i’r dref. Yn 1972 enillodd y côr y wobr gyntaf yn Eisteddfod Butlins, a oedd yn gystadleuaeth fawr ar y pryd gyda chorau o bob rhan o Loegr a Chymru yn cystadlu. Hwn oedd y pumed tro i’r côr ennill y gystadleuaeth hon, camp na welir mo’i thebyg eto. Ond nid cystadlu yn unig fu’r hanes. Yn 1975 aeth y côr ar daith hanesyddol y tu hwnt i’r ‘Llen Haearn’ gan ymweld â Hwngari, lle ymddangosodd y côr o flaen panel o gerddorion mwyaf blaenllaw Hwngari a chael eu gwobrwyo â Diploma gan yr Academi Ddiwylliannol am eu perfformiad. Oddiar y daith gyntaf hanesyddol hon mae’r côr wedi teithio yn eang, gan gynnwys teithio ddwy waith yn America, dwy waith yng Ngwlad Belg, mynd ar ddau ymweliad â Gwyl Interceltique Lorient a mynd ar nifer o deithiau i Iwerddon a’r Alban. Mae’r Cor wedi ennill saith gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r côr wedi ymddangos ar y teledu nifer fawr o weithiau ac wedi ymddangos ar lwyfan gyda rhai o berfformwyr gorau’r byd. Mae’r rhain yn cynnwys Dennis a Patricia O’Neill, Willard White, Shirley Bassey, Harry Secombe, Gwyn Hughes Jones, The Black Dyke Mills Band a’r dyn ei hun, Bryn Terfel. Mae’r Brythoniaid wedi cyhoeddi nifer o recordiau a chryno ddisgiau a chawsant ddisg aur gan Gwmni Recordiau Sain yn 1982 yn gydnabyddiaeth am werthiant eu recordiau, a’u dyfarnu yn Gôr y Flwyddyn gan HTV yn 1992. Dros y blynyddoedd mae’r côr wedi elwa ar ddawn nifer o bobl sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant mewn gwahanol ffyrdd: Meirion Jones M.B.E., Katie Pleming, Jennie May Ellis, Gareth Jones, is arweinydd y côr am nifer o flynyddoedd, Elfyn Pugh, Arlywydd y Côr, ac Elizabeth Ellis, a aeth yn gyfeilydd i’r côr yn 1984 ac sy’n dal i roi cefnogaeth amhrisiadwy i’r ‘mistar’ presennol, John Eifion Jones. Fe fydd y sawl sydd wedi clywed Côr Meibion y Brythoniaid yn canu yn cytuno fod ganddo sain arbennig iawn sydd wedi rhoi pleser i nifer fawr o bobl dros y blynyddoedd. Hir oes iddynt.